Pwrpas cylch Ti a Fi yw rhoi cyfle i rieni neu warchodwyr gwrdd yn rheolaidd i fwynhau chwarae gyda’u plant a chymdeithasu dros baned neu ddisgled o de!
Mae’r cylch Ti a Fi yn cynnig gweithgareddau sy’n helpu datblygiad plant o enedigaeth hyd at oed ysgol. Mae’n gyfle gwych i rieni/gwarchodwyr gwrdd i rannu profiadau a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymreig.
Wrth fynd i’r cylch Ti a Fi bydd eich plentyn yn cael cyfle i:
- fwynhau chwarae a gneud ffrindiau bach newydd
- chwarae gyda phob math o deganau
- dysgu caneuon bach syml y gallwch eu canu gyda’ch gilydd gartref
- gwrando ar storiau
- chwarae gyda thywod a chlai
… a joio!
Erbyn heddiw mae dros 500 o gylchoedd Ti a Fi yn aelodau o’r Mudiad, a thros 8,000 o blant yn mwynhau mynd i’r cylch Ti a Fi. Mae’r cylch Ti a Fi yn cael ei reoli gan bwyllgor o rieni neu wirfoddolwyr ac mae nifer ohonynt yn gysylltiedig â’r cylch meithrin lleol.
Gallwch ddod o hyd i gylch Ti a Fi yn eich ardal chi trwy glicio yma!
The purpose of the cylch Ti a Fi is to offer parents and carers an opportunity meet regularly to enjoy playing with their children and socialise over a cuppa!
The cylch Ti a Fi provides activities promoting the development of children from birth to school age. It’s a brilliant opportunity for parents/carers to meet to socialise and share experiences in an informal Welsh atmosphere.
By attending the cylch Ti a Fi your child will have the opportunity to:
- enjoy playing and making new friends
- enjoy playing with toys
- learn to sing simple Welsh songs that you can sing together at home
- listen to Welsh stories and look through books
- play with water and clay
- …. and really enjoy themselves!
You will also have the opportunity to enjoy yourself – and don’t worry if you don’t speak Welsh as everyone is welcome at the cylch Ti a Fi!